Open Call

Closed:Rhaglen Sbarduno Datgarboneiddio Trafnidiaeth gydag Awdurdodau Lleol

opportunities

Rhaglen Sbarduno Datgarboneiddio Trafnidiaeth gydag Awdurdodau Lleol

Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau yw hanner nos ar 15 Medi 2024

Dyma’r rhaglen Sbarduno Datgarboneiddio Trafnidiaeth gydag Awdurdodau Lleol, i gefnogi busnesau bach a chanolig ac ardaloedd lleol i ddiwallu’r cyfleoedd a’r heriau a ddaw yn sgil ymrwymiadau sero net sy’n seiliedig ar leoedd.  Connected Places Catapult sy’n gyfrifol am y rhaglen a hynny rhwng mis Medi 2024 a mis Mawrth 2025, ac mae’n cael ei rhedeg ar y cyd â’r Awdurdodau Lleol a’r Corff Trafnidiaeth Is-genedlaethol canlynol:

  • Cynghorau Adur a Worthing
  • Cyngor Sir Caerdydd
  • England’s Economic Heartland

Mae’r pedwar partner wedi datblygu her benodol sy’n seiliedig ar leoedd. Gyda chefnogaeth Connected Places Catapult, bydd hyd at 2 fusnes bach a chanolig yn cael eu dewis i weithio ar y cyd â phob partner, a chael dealltwriaeth feirniadol a fydd yn eu galluogi i fireinio eu hatebion i fynd i’r afael â’r heriau a gynigiwyd sy’n seiliedig ar leoedd. Bydd busnesau bach a chanolig yn cael eu dewis ar sail pa mor gryf yw eu hatebion i’r heriau dan sylw, ac nid o reidrwydd pa mor agos yn ddaearyddol ydyn nhw at y partner.

Ar ôl asesu anghenion masnachol unigol y busnesau bach a chanolig, bydd Connected Places Catapult yn llunio rhaglen bwrpasol o gymorth masnachol sy’n canolbwyntio ar integreiddio yn y sector cyhoeddus. Gall hyn gynnwys y canlynol:

  • dadansoddi a dilysu’r farchnad
  • mireinio/datblygu achosion o ddefnydd penodol
  • cymorth i greu a mireinio modelau busnes
  • cyfathrebiadau a strategaethau masnachol wedi’u haddasu ar gyfer caffael cyhoeddus
  • datblygu strategaethau ‘Mynd i’r Farchnad’
  • cyflwyniadau i ddarpar gwsmeriaid a/neu fuddsoddwyr awdurdodau trafnidiaeth ac awdurdodau lleol.

Mae heriau’r rhaglen sbarduno a’r meini prawf cymhwysedd i’w gweld isod.

Gweminar Cymorth i Wneud Cais

Bydd Connected Places Catapult yn cynnal Gweminar Cymorth i Wneud Cais ar 21 Awst, rhwng 2 a 3pm. Bydd y digwyddiad hwn yn rhoi cyfle i ymgeiswyr gael rhagor o wybodaeth am yr hyn mae’r rhaglen yn ei gynnig, yr heriau, y broses ymgeisio, y meini prawf sgorio, a’r broses asesu. Hefyd, bydd sesiwn fyw o holi ac ateb ar gyfer darpar ymgeiswyr i ofyn unrhyw gwestiynau pellach neu i wirio a ydyn nhw’n gymwys.

Meini prawf cymhwysedd

Er mwyn bod yn gymwys, rhaid i ymgeiswyr:

  • fod yn fusnes micro, bach neu ganolig ei faint (BBaCh).
  • bod â swyddfa gofrestredig yn y DU.
  • cael atebion sy’n mynd i’r afael ag un neu fwy o’r heriau a nodwyd.
  • cael atebion ar lefel parodrwydd technoleg (TRL) 7 neu uwch. Mae hyn yn cyfateb i’r gofyniad sylfaenol bod yr atebion wedi cwblhau arddangosiad prototeip o’r dechnoleg mewn amgylchedd gweithredol a/neu wedi cymhwyso’r dechnoleg ei hun drwy gamau gweithredu llwyddiannus.
  • bod yn barod i deithio o bryd i’w gilydd ar gyfer cyfarfodydd wyneb yn wyneb (ond bydd y rhan fwyaf o’r rhaglen yn cael ei chynnal ar-lein)

Sut mae gwneud cais

Gwnewch gais drwy ddilyn y ddolen isod.

Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau yw hanner nos ar 15 Medi 2024.

This opportunity has now closed, but don’t miss out on what’s next. Sign up for our newsletter to stay informed about new opportunities as they arrive!

Open signup modal