Dyddiadau Allweddol

Dyma’r rhaglen Sbarduno Datgarboneiddio Trafnidiaeth gydag Awdurdodau Lleol, i gefnogi busnesau bach a chanolig ac ardaloedd lleol i ddiwallu’r cyfleoedd a’r heriau a ddaw yn sgil ymrwymiadau sero net sy’n seiliedig ar leoedd. Connected Places Catapult sy’n gyfrifol am y rhaglen a hynny rhwng mis Medi 2024 a mis Mawrth 2025, ac mae’n cael ei rhedeg ar y cyd â’r Awdurdodau Lleol a’r Corff Trafnidiaeth Is-genedlaethol canlynol:
Mae’r pedwar partner wedi datblygu her benodol sy’n seiliedig ar leoedd. Gyda chefnogaeth Connected Places Catapult, bydd hyd at 2 fusnes bach a chanolig yn cael eu dewis i weithio ar y cyd â phob partner, a chael dealltwriaeth feirniadol a fydd yn eu galluogi i fireinio eu hatebion i fynd i’r afael â’r heriau a gynigiwyd sy’n seiliedig ar leoedd. Bydd busnesau bach a chanolig yn cael eu dewis ar sail pa mor gryf yw eu hatebion i’r heriau dan sylw, ac nid o reidrwydd pa mor agos yn ddaearyddol ydyn nhw at y partner.
Ar ôl asesu anghenion masnachol unigol y busnesau bach a chanolig, bydd Connected Places Catapult yn llunio rhaglen bwrpasol o gymorth masnachol sy’n canolbwyntio ar integreiddio yn y sector cyhoeddus. Gall hyn gynnwys y canlynol:
Mae heriau’r rhaglen sbarduno a’r meini prawf cymhwysedd i’w gweld isod.
Bydd Connected Places Catapult yn cynnal Gweminar Cymorth i Wneud Cais ar 21 Awst, rhwng 2 a 3pm. Bydd y digwyddiad hwn yn rhoi cyfle i ymgeiswyr gael rhagor o wybodaeth am yr hyn mae’r rhaglen yn ei gynnig, yr heriau, y broses ymgeisio, y meini prawf sgorio, a’r broses asesu. Hefyd, bydd sesiwn fyw o holi ac ateb ar gyfer darpar ymgeiswyr i ofyn unrhyw gwestiynau pellach neu i wirio a ydyn nhw’n gymwys.
Mae manylion yr heriau a’r dogfennau ategol ar gael
Er mwyn bod yn gymwys, rhaid i ymgeiswyr:
Gwnewch gais drwy ddilyn y ddolen isod.
Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau yw hanner nos ar 15 Medi 2024.